Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tafarn y Llew Du bellach yn Tŷ Gwaelod

Tafarn y Llew Du bellach yn Tŷ Gwaelod

Adeiladwyd Tafarn y Llew Du, a elwid hefyd yn Bottom Monkey neu Dŷ Gwaelod, ddiwedd y 1800au. Oherwydd mewnlifiad o lowyr i'r ardal, adeiladwyd Y Llew Du i wasanaethu anghenion y rhai a gyflogwyd yn lleol, yn enwedig ym mhrif Lofa Dublin. Parhaodd i ffynnu fel tafran leol i'r 1990au pan gafodd ei ymestyn i gynnwys ardal fwyty. O hynny ymlaen, profodd hanes brith hyd ddechrau'r 21ain ganrif. Bryd hynny roedd masnach y dafarn wedi dirywio ac o'r diwedd caeodd Y Llew Du ei ddrysau fel tŷ tafarn ac mae bellach yn gartref preifat o'r enw "Tŷ Gwaelod".