Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Siop yn Bleak House

Siop yn Bleak House

Yn ystod y 19eg ganrif, prin oedd y siopau pwrpasol, os o gwbl. Roedd anghenion y gymuned yn cael eu ddiwallu o ystafelloedd blaen tai ac yn cael eu rheoli gan y gwragedd tra roedd y gwŷr yn gweithio. Un sefydliad o'r fath oedd Bleak House, a oedd yn cael ei redeg gan Carrie Hughes. Mae'r tŷ yn dal i sefyll ar Ffordd y Pentref ac mae'n parhau i fod yn gartref preifat. Saif wrth ymyl llwybr cyhoeddus lle safai bythynnod glowyr Brighton Row, roedd y Bottom Monkey o bobtu iddynt.