Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gardd Goffa a Chofeb Rhyfel.

Saif yr Ardd Goffa a Chofeb Ryfel hon ar gornel St Mary's Drive a Ffordd y Pentre.

Mae'r safle wedi elwa o Gronfa Treftadaeth y Loteri a Chronfa Cymunedol y Lluoedd Arfog i wella ei ymddangosiad. Cwblhawyd ymchwil helaeth am bob un o’r milwyr a enwir a’i gynnwys mewn llyfr am y pentref ac "Arwyr y Pentref". Mae'r safle hwn bellach yn ganolbwynt deniadol i'r pentref, yn lle i eistedd a myfyrio ar yr aberth a wnaed gan y ddau ar bymtheg o ddynion hynny. Cynhaliwyd seremoni ail-gysegru yn 2018 i ddathlu cwblhau’r gwaith a chyhoeddi’r llyfr. Lleolwyd y Gofeb Ryfel yn wreiddiol wrth fynedfa Institiwt y Glowyr ar gornel Lôn yr Institiwt. Roedd plac yn enwi'r un ar ddeg o filwyr a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ychwanegwyd plac arall i gofio'r chwe milwr a fu farw o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd. Cafodd y strwythur ei adleoli i'w safle presennol ym 1996 pan gafodd yr Institiwt ei ddymchwel.

St Mary's Drive oedd ail gam tai cymdeithasol yn y pentref. Cafodd ei adeiladu yng nghanol y 1950au a chymerodd ei enw o'r eglwys gyfagos. Ychwanegwyd byngalos pensiynwyr yn ddiweddarach at y Drive cyn i'r cae cyfagos gael ei ddatblygu ar gyfer tai preifat.