Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys y Santes Fair

Cwblhawyd Eglwys y Santes Fair i lefel y prif do yn 1912.

Codwyd yr “Ystafell Genhadu Haearn” neu “Eglwys Haearn Dwyrain Llaneurgain” yn y 1880au, ar draws y ffordd o'r fan lle saif yr eglwys bresennol, dan arweiniad ficer plwyf Llaneurgain ar y pryd, yr Archddiacon Smart. Ar droad yr 20fed ganrif, gwnaeth Mr John Watkinson o Brook Park, a rannodd y pryder cyffredinol ynghylch anaddasrwydd cynyddol yr “Eglwys Haearn”, gymynrodd ar ei farwolaeth ym 1908 i ariannu adeiladu eglwys newydd i wasanaethu’r gynulleidfa, ar yr amod bod yr Eglwys yn darparu'r tir. Roedd darn addas o dir ar gael ac ar y 3ydd o Fehefin 1909, cytunodd y CHTh i dderbyn y cynnig hael hwn a sefydlwyd pwyllgor i sefydlu a goruchwylio cronfa gasglu i godi'r £150 oedd ei angen ar gyfer y tir. Cynigiodd teulu Watkinson adeiladu eglwys newydd ar safle a brynwyd gan “bobl yr Eglwys”. Codwyd y £150 angenrheidiol trwy danysgrifiad cyhoeddus. Gosodwyd y garreg sylfaen ar Hydref 27ain 1910. Cwblhawyd yr Eglwys ym 1912, er mai dim ond i lefel y to y codwyd y twr. Cafwyd y cysegriad ar 23 Ebrill 1912 a chysegrwyd yr eglwys i'r Santes Fair. Bu capel gyda’r un cysegriad yn eglwys y plwyf yn Llaneurgain, ond aeth ar goll yn ystod gwaith adnewyddu!
Dathlwyd hanner canmlwyddiant yr eglwys ym 1958-9 trwy roi estyniad cymharol fychan i'r tŵr. Ystyriwyd amrywiol gynlluniau ar gyfer meindwyr ond fe'u gwrthodwyd oherwydd y gost. Cynhaliwyd noson hwyrol weddi arbennig ar 5 Awst 2012 i ddathlu'r canmlwyddiant. Mae Eglwys y Santes Fair wedi bod yn rhan o Blwyf Llaneurgain erioed, Ardal Genhadaeth yr Wyddgrug erbyn hyn. Yn 2018, cyhoeddwyd ei bod yn ddiangen oherwydd bod y niferoedd wedi gostwng, ac roedd ar gael ar gyfer bedyddiadau ac angladdau, ac fel lleoliad ar gyfer cerddoriaeth a digwyddiadau eraill. Mae'r Eglwys bellach ar werth.