
Tŷ'r Eglwys 
Saif "Maisons de Reeves" ar safle Tŷ'r Eglwys. Ar y caeau y tu ôl i Dŷ'r Eglwys bellach mae ystâd dai Hero's Place / Plas Yr Arwr
Wedi adeiladu'r eglwys bresennol, defnyddiwyd y "Tŷ Eglwys", fel y'i gelwid, ar gyfer cyfarfodydd, partïon, gyrfâu chwilod a Bingo.
Byddai aelodau’r Eglwys Sefydledig yn teithio i Laneurgain i addoli nes i'r “Eglwys Haearn” gael ei hadeiladu ym 1882 i wasanaethu anghenion Plwyfolion. Safai gyferbyn â'r Eglwys bresennol. Yn y 1960au fe'i defnyddiwyd ar gyfer ymarfer band gan fandiau lleol brwdfrydig. Byddai sioe arddwriaethol yn cael ei chynnal o bryd i'w gilydd, yn Nhŷ'r Eglwys a'r cae cyfagos. Cafodd ei ddymchwel yn yr 1980au ac yn ei le bellach mae byngalo “Maison de Reves”.