Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tramffyrdd a Rheilffordd Northop Hall

Cludwyd briciau, glo a chrochenwaith i Ddociau Cei Connah a'u hallforio ledled y byd.

Roedd cloddio glo a gwneud crochenwaith yn digwydd yn lleol o ddiwedd y 1200au pan ddisgrifiwyd yr ardal fel porfa Maenor Ewloe. Datblygiad y ddau ddiwydiant hyn o'r 17eg Ganrif ymlaen a ddenodd bobl i ymgartrefu yn yr ardal.
Daeth Cwmni Irish Coal, a ffurfiwyd ym 1798, i gytundeb â Mr Hewitt am dir yn ardal Pentre Moch er mwyn manteisio ar y gwythiennau glo cyfoethog. Aethpwyd â'r glo i lawr i'r Cei yng Nghei Connah gan dramiau wedi'u tynnu gan geffylau. Adeiladwyd y dramffordd gan George Connah, Landlord y Cei. Roedd y ceffylau'n cael anhawster gyda'r inclein olaf i lawr i'r Cei. Yn syml, ni allai'r ceffylau gymryd y straen. Datryswyd y broblem trwy newid o bŵer ceffylau i bŵer stêm.
Roedd y London Gazette ar 12fed Tachwedd 1859 yn cynnwys manylion rheilffordd arfaethedig i gysylltu Bwcle i fyny ag Afon Dyfrdwy yng Nghei Connah a chysylltu â Phrif Linell Caer i Gaergybi. Roedd y llinell yn rhedeg o dan Lofa Dublin Main i lawr i Lôn Bryn Gwyn cyn torri trwy dir fferm i Ddociau Cei Connah. Ym 1861 adeiladwyd rheilffordd fesur safonol, Ffordd Haearn Wepre, rhwng Bwcle, Northop Hall a Chei Connah gan Gwmni Rheilffordd Bwcle. Fe agorodd ar 16 Mehefin 1862 gan anfon 30,000 o frics i'w cludo allan i Gei Connah. Roedd y llinell yn cludo briciau a glo o weithfeydd brics Major Jones, Hancock, The Standard, Gwaith Coed Ewloe Davison, Catherall, Gibson, Gwaith Neuadd Ewloe Davison, Parry, Castle Fire Brick a phyllau glo yn Mynydd Bwcle a The Elm gyda'r alwad olaf yn Seidin Northop Hall. Yn Ffordd Haearn Wepre a'i gyffordd â'r doc y cafodd y glo o "Little Dublin" ei bwyso cyn iddo gael ei lwytho ar longau'n aros. Roedd y rheilffordd fasnachol hon yn rhedeg tan 1967. Ddwywaith y dydd roedd yr injan stêm a'r tryciau yn galw yn y seidins. Yma danfonwyd glo i fasnachwyr lleol. Roedd y rheilffordd hefyd yn ffordd i drigolion gerdded i Lannau Dyfrdwy. Fe'i defnyddiwyd gan ddisgyblion a oedd yn mynd i'r ysgol uwchradd a gweithwyr yn mynd i'r Gwaith Dur ac ar gyfer teithiau i'r sinema ac i ddawnsio yn Neuadd Vaughan yng Nghei Connah.