Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Clwb Ieuenctid Penyffordd

Clwb Ieuenctid Penyffordd

Wedi'i hadeiladu ar ddiwedd y 1800au, hon oedd yr ysgol iau leol tan 1970 pan adeiladwyd yr ysgol iau newydd yn Ffordd Penymynydd.

Mae ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar hanes manwl, ond bydd llawer o drigolion y pentref yn cofio Prifathro'r pumdegau a'r chwedegau, Mr Len Parry. Bydd eraill hefyd yn cofio bod y brif fynedfa o flaen yr adeilad a gellir gweld lleoliad y drws yn y gwaith brics blaen. Daeth y prif adeilad yn ganolfan gymunedol y pentref sy'n cael ei redeg gan y wasanaethau ieuenctid a'i brif ddefnydd yw fel Canolfan Ieuenctid ond mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan amrywiol grwpiau eraill o'r pentref ar gyfer dawns, hyfforddiant ufudd-dod cŵn, canolfan ffitrwydd ac ati. Yr adeilad atodol oedd y ffreutur a adeiladwyd yn yr pumdegau cynnar ac mae wedi bod yn bencadlys sgowtiaid y pentref ers canol y saithdegau. Ar hyn o bryd mae'r safle cyfan yn destun trosglwyddiad asedau i'r Gymuned gyda'r nod o wella'r cyfleusterau cyffredinol.