Un o'r adeiladau mwyaf newydd ym mhentref Penyffordd yw'r ysgol gynradd, Ysgol Penyffordd
Wedi'i adeiladu ar safle'r hen adran Babanod, ar hyn o bryd mae'r adeilad trawiadol, blaen llechi, yn darparu lle i 330 o ddisgyblion, rhwng 3-11 oed ac fe'i agorwyd ym mis Medi 2019. Cafodd dyluniad a nodweddion yr adeilad eu dylanwadu'n fawr gan y disgyblion, y staff ac aelodau o'r gymuned.
Roedd yr ysgol wedi gweithredu ar ddau safle, Babanod ac Iau, gyda'r olaf ar Ffordd Penymynydd, ar ôl ei uno yn 2013. Bellach mae disgyblion yn mynychu'r un adeilad, gan rannu'r nifer fawr o gyfleusterau sy'n gwneud hwn yn ofod mor unigryw. Ar frig y rhestr o uchafbwyntiau'r disgyblion mae: bod gyda'i gilydd, gofod y llyfrgell, y llong môr-ladron a'r loceri disgyblion; gwnaeth yr un argraff ar y gymuned pan ymwelon nhw yn yr agoriad.
Cyn-Covid roedd grwpiau cymunedol yn gallu llogi lleoedd yn yr adeilad hefyd, ac mae cynlluniau ar gyfer mynediad cymunedol i'r cae, gan ganiatáu i lawer rannu'r gofod rhyfeddol hwn yn y dyfodol.


