Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Emmanuel

Croeso i Eglwys Emmanuel.

Nod Emmanuel, sy'n golygu “Duw gyda ni”, yw darparu a gofalu yn ysbrydol am bawb ym Mhenfffordd, trwy addoli ar y Sul, Urdd Merched, boreau coffi a gweithgareddau i deuluoedd a phlant.

Agorodd yr eglwys genhadol gyntaf ym 1881 mewn ysgubor ar safle'r siop bysgod a sglodion gyfredol. Ar 1 Awst 1890, agorwyd “Eglwys Tun” newydd. Rhoddwyd y bregeth gyda'r nos gan fab y cyn Brif Weinidog, y Parch Stephen Gladstone.

Ym 1959, agorodd Emmanuel ar ei safle presennol, prosiect dan arweiniad y warden yr eglwys George Leech, gyda thir wedi'i roi gan Mr Scott. Daeth y paneli yn y gangell o hen Blas Eaton, a rhoddwyd yr allor gan deulu Frost o Meadowslea. Yn 2011, adnewyddwyd ac ymestynnwyd yr eglwys i gynnwys cegin a thoiled. Yn 2019, dathlodd Emmanuel ei ben-blwydd yn 60 oed yma gyda gwasanaeth dan arweiniad yr Esgob Gregory o Lanelwy.