Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Capel y Drindod

Capel y Drindod

Ffurfiwyd Capel y Drindod ym 1994 trwy uno Capeli Methodistaidd ym Mhenyffordd a Penymynydd ac Eglwys Bresbyteraidd Seion, Penyffordd.

Codwyd yr adeiladau ar gyfer yr Eglwys Fethodistaidd fesul cam ym 1855, 1872, 1921 a 1951 gyda rhywfaint o ailfodelu ym 1998.

Yn 2020 defnyddir yr adeiladau gan bartneriaeth rhwng Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r adeiladau yma i ddathlu ac i ledaenu “Newyddion Da” neu “Efengyl” cariad Duw at y byd hwn a ddangosir gan fywyd a dysgeidiaeth Iesu Grist. Mewn amseroedd arferol, mae cynulleidfaoedd ar gyfer Addoliad Cristnogol, addysgu a dysgu, ynghyd â rhai gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd ac achlysurol.