Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Ioan Fedyddiwr

Mae Eglwys Sant Ioan yn rhan o Esgobaeth Llanelwy, sy'n cefnogi cymunedau Penymynydd, Dobshill a Phenyffordd.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1842 a chysegrwyd yr adeilad, rhestredig gradd 2 bellach, ym mis Gorffennaf 1843. Enw'r ficer cyntaf oedd John Ellis Troughton a chymerodd arno'i hun i addurno'r eglwys. Peintiodd y murluniau mewn olew, dyluniodd, paentiodd a llosgodd y ffenestri gwydr lliw, gwnaeth y stensilio, a rhywfaint o'r cerfio pren. Cymerodd hyn 20 mlynedd. Mae'r murluniau wedi'u paentio ag olew yn gopïau o waith arlunydd o'r Almaen o'r enw Overbeck.

Rhoddwyd y cloc gan un o ferched y Prif Weinidog Gladstone. Fe’i hadeiladwyd gan y pensaer enwog o Lundain, Syr John Buckler. Comisiynwyd a thalwyd am yr adeilad gan Syr Stephen Glynne a chostiodd £3000. Mae bodolaeth Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn ddyledus i grŵp o'r enw Cymdeithas Camden Caergrawnt, a elwid yn ddiweddarach yn Gymdeithas Eglwysigol, a sefydlodd eu hunain ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1839. Talodd Syr Stephen hefyd am adeiladu'r persondy a'r ysgol gyfagos.