Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gerddi Coffa

Yng nghanol y pentref, lle mae Ffordd Penarlâg a Ffordd Caer yn cwrdd mae'r Ardd Goffa.

Roedd y darn hwn o dir yn wreiddiol yn rhan o ardd y bythynnod cyfagos, ond fe'i rhoddwyd i'r pentref i ddarparu Cofeb i drigolion Penyffordd.
Y darn canol yw Cloc y Mileniwm pedair ochrog. Codwyd hwn yn 2000 trwy roddion gan drigolion Penyffordd, Penymynydd a'r ardaloedd cyfagos, a chan Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru. Y tu mewn i'r cloc mae capsiwl amser gydag enwau'r bobl a gyfrannodd.
Mae yna nifer o feinciau a photiau planhigion yma, gan gynnwys un fainc sy'n gyflwynedig i Merfyn roddodd oes o wasanaeth yn glanhau strydoedd Penyffordd.
Mae'r ardd Goffa wedi bod yn ganolbwynt i lawer o weithgareddau'r pentref. Mae'r cloc wedi'i addurno â channoedd o bopïau llachar, a wnaed gan aelodau o'r gymuned i nodi Sul y Cofio.
Mae'r ardd yn cynnwys Coeden Nadolig y pentref, sydd wedi'i goleuo â goleuadau lliw adeg y Nadolig.