Mae Institiwt Coffâu'r Rhyfel wrth wraidd y gymuned leol yn ddaearyddol ac yn emosiynol fel y bu ers bron i ganrif.
Penderfynwyd ar adeiladu'r Institiwt Coffâu'r Rhyfel mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 1918 lle cytunodd y rhai a oedd yn bresennol 'y dylem wneud popeth yn ein gallu i anrhydeddu'r meirw a bod o fudd i'r rhai a ddaeth yn ôl atom'. Ategir y teimlad hwn gan yr aelodau sefydlu heddiw i raddau helaeth: er bod yr Institiwt yn coffâu'r dynion o'r ardal a syrthiodd mewn dau ryfel byd, mae'n ganolfan fywiog, llawn gweithgaredd a ddefnyddir gan rai o bob oed ac amrywiaeth eang o glybiau a sefydliadau lleol. Yr Institiwt hefyd yw lleoliad carnifal a dathliadau coelcerth blynyddol y pentref, sydd bob amser yn cael cefnogaeth dda gan y gymuned leol.
Rhoddwyd y tir ar gyfer yr Institiwt gan Mr. James Collinge o Kinnerton Lodge a chodwyd arian trwy danysgrifiad cyhoeddus, a rhodd o £500 o Gronfa Lles y Glowyr, i gwrdd â'r gost o £1,400 i gwblhau adeilad yr Institiwt. Gosodwyd y garreg sylfaen gan H N Gladstone (Arglwydd Raglaw'r Sir) ar 16 Rhagfyr 1922. Cynhaliwyd seremoni agoriadol yr Institiwt ar 19 Gorffennaf 1923, pryd y cafodd llechen farmor yn dwyn enwau deg dyn o'r gymuned leol a oedd â wedi cwympo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf arni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, atafaelwyd yr Institiwt gan y Weinyddiaeth Awyr ond fe'i dychwelwyd i ddefnydd y pentref ar ôl i'r gwrthdaro hwnnw ddod i ben. Cynhaliwyd ail seremoni 'Dadorchuddio a Chysegru' ar 23 Hydref 1949 i anrhydeddu deuddeg dyn a oedd wedi cwympo yn ystod yr ail ryfel. Mae'r ddwy dabled marmor coffa wedi'u gosod ar waliau prif neuadd yr Institiwt ac maent yn ganolbwynt sylw yn y coffâd blynyddol Diwrnod y Cadoediad.
Mae neuadd wreiddiol yr Institiwt, dros amser, wedi'i hymestyn ac mae ystafell gyfarfod a chegin wedi'u hychwanegu. Mae'r galw am ddefnyddio'r Institiwt wedi tyfu tu hwnt i'r capasiti yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly, yn 2020, cynhaliwyd prosiect i ymestyn a diweddaru'r Institiwt ymhellach, i ateb y galw hwn gan y boblogaeth leol sy'n tyfu.




