Cyfarfod Caffi Cof Misol
Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim sy'n cael ei redeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Rydym yn cynnig lleoliad hamddenol a chefnogol yn y bwyty yn y Llew Coch, Pen-y-Ffordd, gydag adloniant a gweithgareddau, digon o de, coffi ac wrth gwrs, cacennau cartref.
Mae'n gyfle gwych i annog pobl â dementia neu broblemau cof i fynd allan o'r tŷ a chymdeithasu gyda gofalwyr neu deulu.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r trefnwyr Judy McHugh 07983628091 neu Karol Tunnicliffe 07811422729.


