
Mae Rhandiroedd Millstone yng nghanol y pentref ac mae mynediad iddynt trwy'r parc plant ger tafarn Millstone (a'r Co-Op erbyn hyn!).
Rydyn ni'n griw cyfeillgar gyda chyfanswm o 16 llain. Mae yna hefyd ardd gymunedol gyda meinciau a bwrdd picnic sydd ar gael i'r gymuned eu defnyddio. Gallwch gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth neu i ymuno â'r rhestr aros trwy ein tudalen facebook "Millstone Allotments."