Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Celf Cerrig

Mae'r Celf Cerrig ar hyd y llwybr tynnu yn darlunio chwarela a llosgi calch.

Daethpwyd o hyd i'r offer a ymgorfforwyd yn y cerrig i gyd yn lleol, llawer ohonynt yn y chwareli y maent yn eu cynrychioli neu'n agos atynt.

'Canada Bill' oedd llysenw chwarelwr lleol a ymfudodd i Ganada ond a ddychwelodd, ar ôl cael galwad i fod yn bregethwr Efengylaidd gair Duw. Mae'r gwaith celf ar lwybr tynnu Fron yn dangos Canada Bill a'r wagen dram wedi'i llwytho ag enghraifft o'r garreg y mae'r Draphont Ddŵr wedi'i hadeiladu ohoni.