



Rhes o fythynnod wrth ymyl Rose Cottage ar y safle a ddefnyddir bellach gan Jones the Boats 



Pontydd Scotch Hall
Mae'r tri bwa hyn ym mhen gogleddol y basn yn ffurfio un bont ac yn awgrymu nad camlesi yn unig a ddaeth â ffyniant i'r ardal ond hefyd rheilffyrdd.
Mae'r bwa canol yn arwain at lanfa'r gamlas. Roedd y bwa llai ar y dde yn wreiddiol ar gyfer tramffordd Rhiwabon. Roedd y bwa mwy ar y chwith yn dramffordd mesur safonol ar gyfer cludo mwynau. Mae'r olygfa o'r bont yn dangos yr union drac sy'n dal yn ei le oedd yn cysylltu'r hen lanfa â'r basn.

Pont Plas Kynaston
Ar un adeg roedd y bont hon, sydd bellach wedi'i blocio, yn croesi dros estyniad i'r gamlas a oedd yn gwasanaethu'r gwaith cemegol cyfagos yng Nghefn Mawr.
Mae rhan fach o'r gangen hon i'w gweld o hyd ar draws y ffordd o'r fynedfa i'r maes parcio.