Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Telford Inn

Telford Inn

Adeiladwyd y Telford Inn, neu'r Scotch Hall, ym 1793.

Fe'i dyluniwyd gan Telford a'i adeiladu ar gyfer Matthew Davidson, y peiriannydd a oruchwyliodd y gwaith o adeiladu'r gamlas a'r draphont ddŵr. Y tu mewn mae yna lawer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys dau le tân Sioraidd cain.

Ar un adeg roedd Scotch Hall yn gartref i Mr Mather, y prif fferyllydd o Waith Monsanto. Roedd yr ardal sydd bellach yn faes parcio yn berllan bryd hynny a mae pobl yn ei gofio yn llenwi berfa yn llawn afalau a'u rhoi i drigolion lleol. Weithiau, byddai'n gwahodd cydweithwyr a'u teuluoedd am de prynhawn i'r parlwr. Eisteddai'r plant ar y llawr a chael eu diddanu gan Steam Boat Willie, ffilm Mickey Mouse gyntaf Walt Disney, yn cael ei daflunio ar y wal.

Daeth y tŷ yn dafarn ym 1981 ac mae'n croesawu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae Bruce Telford, nai Thomas Telford o'r trydydd cenhedlaeth, yn ymweld yn flynyddol, gan ddod â phobl o bob cwr o'r byd i weld gwaith gwych ei ewythr.

Mae Sarah, tafarnwraig y Telford Inn, yn dweud wrthym am rai o breswylwyr mwy anarferol y dafarn.

Gwrando