Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Taith 8:Rhuddlan Hanesyddolyr Afon Clwyd a Gwarchodfa Natur y Brickfield.

Taith 8:Rhuddlan Hanesyddolyr Afon Clwyd a Gwarchodfa Natur y Brickfield.

Taith 8: Rhuddlan Hanesyddol, yr Afon Clwyd a Gwarchodfa Natur y Brickfield.

Disgrifiad:
Mae’r daith hon yn ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol Rhuddlan, gyda golygfeydd o Fryniau Clwyd ac o ddiddordeb arbennig i adarwyr, yn enwedig ar hyd glannau’r afon Clwyd a Phwll y Brickfield. Mae’n golygu cerdded ar bafin, llwybrau a ffyrdd, ond bydd angen croesi cae os am ymweld â Twtil, sy'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.

Hyd: Oddeutu 6.5 milltir
Amser: Neilltuwch oddeutu 3 awr

DECHRAU’R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL ac at y BRIFFORDD (FFORDD RHYL). Trowch i'r DDE a chroeswch ar eich union dros y groesfan belican. Trowch i'r DDE ac yna i'r CHWITH ar FFORDD Y TYWYSOG. Daliwch i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG at STRYD Y CASTELL ar y dde.

Gwybodaeth:
Oedwch gyferbyn â Stryd y Castell i edrych ar Gastell Normanaidd Edward 1af a ddechreuwyd ym 1277. Yr adeilad ar y chwith ichi ydy'r Tŷ Gwledda, a oedd o bosib yn elusendy sy'n dyddio o 1672.
Cerddwch ymlaen ar hyd FFORDD Y TYWYSOG a chymryd y troad 1af i FFORDD YR ABATY. Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o'r enw 'MONFA'.

Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 - 2008
Ffotonewyddiadurwr byd-enwog

Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.
Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a bwrdd gwybodaeth "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio 'YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).

Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno.

CROESWCH y STRYD FAWR a throi i'r CHWITH i lawr yr allt tuag at AFON CLWYD. Ar waelod yr allt ar y dde ichi gwelir 3 Marchog Rhuddlan, gan y cerfluniwr lleol, Mike Owens.

Gwybodaeth:
Maen nhw'n amddiffyn y fynedfa i Rhuddlan ac yn nodi'r fan lle bu gweithwyr lleol yn aros pob bore i gael eu dewis i weithio gan berchnogion ffermydd a busnesau lleol.

Cerddwch at y llwybr troed dros yr Afon Clwyd.

Gwybodaeth:
Ochr yn ochr gwelir y bont garreg hynafol; bu pont o ryw fath yn y lleoliad hwn ers 1277. Mae'r bont bresennol yn dyddio'n ôl i 1595. Mae'r llwybr troed dros yr afon yn caniatáu golygfeydd da o'r Castell, Eglwys y Santes Fair a'r Afon Clwyd.
DYCHWELWCH o’r bont at y ffordd a throi i’r CHWITH i FFORDD TAN YR EGLWYS, gan basio yng nghysgod Eglwys y Santes Fair. Pan fydd y lôn yn dechrau troi i fyny i’r dde, EWCH CHI I’R CHWITH tuag at yr afon (wedi’i arwyddo RHYL 84). Cadwch ar y llwybr CHWITH ac ewch trwy rwystr cam a phasio o dan ffordd osgoi'r A525.

Gwybodaeth:
Cadwch olwg allan am elyrch, crehyrod, gwyddau Canada, bilidowcars, piod y môr, gwylanod a môr-wenoliaid. Mae llawysgrifau hanesyddol yn cofnodi brwydr fawr yma yn 795/796, pan laddwyd Caradog, Tywysog Gwynedd a llu o’i filwyr gan luoedd Offa, Brenin Mersia a dywedir i laweroedd foddi yn y llanw wrth geisio dianc.
Cerddwch ymlaen ar hyd y llwybr troed uwchlaw'r Afon Clwyd tuag at Y Rhyl a’r môr, gan basio trwy 5 giât. Mae’r llwybr wedyn yn gwyro i’r dde, oddi wrth yr afon ac yna’r troi i’r chwith tuag at faes carafanau. Wedi cyrraedd ‘cyffordd llwybr gyda chyfeirbwynt’ cyn y maes carafanau, trowch i lawr i’r DDE tuag at Bwll y Brickfield / Coleg. Cerddwch ymlaen ar hyd y llwybr hwn gyda’r Maes Carafanau ar y chwith ichi at y pen draw.
Trowch i’r CHWITH gyda’r Maes Carafanau ar y chwith ichi a pharhau ar hyd y pafin gan basio heibio’r fynedfa i Barc Gwyliau Marine ar y chwith i chi a Choleg Llandrillo/Coleg 6ed Dosbarth ar y dde ichi. Ewch ymlaen tuag at y ‘gyffordd-T’ ac 20 metr cyn y ‘Gyffordd-T’ mae’r fynedfa i Warchodfa Natur Pwll y Brickfield ar y DDE ichi. Ewch i mewn, cerddwch o amgylch a mwynhewch, gan ddychwelyd i’r un fynedfa ar gyfer y daith yn ôl i Ruddlan.

Gwybodaeth:
Mae Gwarchodfa Natur y Brickfield wedi’i lunio o’r pwll clai a’r hen waith brics fu yma ers talwm. Cafodd ei lenwi â dŵr a lluniwyd ardal i fywyd gwyllt gyda lle i bysgota, cerdded, loncian neu seiclo ac ardal bicnic. Mae’r llwybr tarmac hanner milltir yn wastad ar y cyfan ac yn gyfleus i bawb ei ddefnyddio. Mae adar yn frith yma, ac mae glas y dorlan, crehyrod a gwennol y llynnoedd wedi’u nodi. Ceir mannau i fwydo’r hwyaid, sy’n cynnwys yr hwyaden wyllt, ieir dŵr, cwtieir ac elyrch. Mae bwrdd gwybodaeth i’w gael yn y maes parcio.

Trowch i’r CHWITH allan o’r allanfa / mynedfa i aildroedio eich camau yn ôl heibio’r coleg ar y chwith ichi a mynedfa Parc Gwyliau Marine ar y dde. Daliwch ymlaen ar hyd y pafin hyd nes ichi gyrraedd, ar y dde ichi, arwydd glas Llwybr Beicio Rhuddlan ac arwydd bren ar gyfer Glan Morfa, Coetir Cymunedol. Trowch i’r DDE i ddilyn y llwybr hwn at y pen draw, gyda’r maes carafanau erbyn hyn ar y dde ichi.
Ar ddiwedd y llwybr trowch i’r CHWITH (arwydd glas - Llwybr Beicio Rhuddlan 84) i ddychwelyd i Rhuddlan yn dilyn yr un llwybr, gan fwynhau’r golygfeydd godidog o Fryniau Clwyd ar y chwith ichi a’r Afon Clwyd ar y dde. Cerddwch ar hyd y morglawdd at ddiwedd y llwybr. Wedi’r rhwystr cam, trowch i lawr ac i’r DDE ar y ffordd ac yna cerddwch i fyny’r allt ar y CHWITH tuag at ganol y dref. Dilynwch y ffordd hon am ychydig bach cyn iddo newid i STRYD YR EGLWYS. Trowch i’r DDE at STRYD YR EGLWYS.

Gwybodaeth:
Yn Stryd yr Eglwys ar y chwith fe welwch borth bwaog; mae’r porth hwn yn arwain at lwybr a elwir ‘Citch Catch’ ac sy’n dyddio o’r 1900au. Roedd yn arfer bod yn llwybr cyfleus i drigolion Stryd y Gwindy at bwmp dŵr croyw a fu gyferbyn. Daliwch ymlaen ac fe fyddwch yn pasio heibio Eglwys y Santes Fair a adeiladwyd oddeutu 1300. Mae’n werth taro i mewn i gael golwg.

Cerddwch at ben draw STRYD YR EGLWYS a throi i’r CHWITH at y STRYD FAWR.

Gwybodaeth:
Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn lys barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.

Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth.
Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.