Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Taith 7: Rhuddlan Hanesyddol.

Taith 7: Rhuddlan Hanesyddol.

Taith 7: Rhuddlan Hanesyddol.

Disgrifiad:
Mae’r daith hon yn ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol Rhuddlan. Fe fyddwch yn cerdded ar bafin, ar hyd ffyrdd, a thros gaeau sy’n gallu bod yn fwdlyd iawn ar adegau, ynghyd â chroesi camfa. Os byddwch yn ymweld â Twtil, mae'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.

Hyd: Oddeutu 2 filltir: Neilltuwch oddeutu 2 awr

Dechrau’r daith:
Maes parcio Llyfrgell Rhuddlan. Efallai y bydd angen talu i ddefnyddio'r maes parcio hwn. Dewis arall ydy parcio ar y strydoedd cyfagos.
Cyfarwyddiadau i gyrraedd Llyfrgell Rhuddlan: Wrth gyrraedd Rhuddlan o gyfeiriad Prestatyn, ewch ar hyd FFORDD RHYL a chyn y groesfan belican, trowch i'r DDE ar hyd COETIAU POSTOL. Mae maes parcio'r Llyfrgell ar y CHWITH ymhen rhyw ddau gan llath.

DECHRAU’R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL, ac ar ben y stryd trowch i’r DDE ar FFORDD RHYL (y briffordd), sy’n newid yn fuan i’r Stryd Fawr, Cerddwch ymlaen YN SYTH i lawr y STRYD FAWR am 200 metr at gyffordd STRYD Y SENEDD a STRYD GWINDY.

Rhif 1: Y SENEDD-DŶ: Mae’r adeilad hwn ar gornel Stryd y Senedd, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn Lys Barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.
Cerddwch ymlaen i lawr y STRYD FAWR a chymryd y troad cyntaf i’r DDE at STRYD YR EGLWYS; oddeutu 50 metr ar y CHWITH mae EGLWYS Y SANTES FAIR.

Rhif 2: EGLWYS Y SANTES FAIR: Yn dyddio o oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy borth Fictoraidd y fynwent.
Dychwelwch at y STRYD FAWR, trowch i’r DDE a cherdded i lawr FFORDD YR ORSAF tuag at y bont. Cyn y bôn tar y DDE ichi mae’r 3 MARCHOG.

Rhif 3: Y 3 MARCHOG: Cerfluniwyd gan Mike Owens. Maen nhw'n amddiffyn y fynedfa i Ruddlan ac yn nodi'r fan lle bu gweithwyr lleol yn aros pob bore i gael eu dewis i weithio ‘am y dydd’ gan berchnogion ffermydd a busnesau lleol.
Cerddwch ar hyd y llwybr troed dros yr afon Clwyd.

Rhif 4: Y BONT DROS YR AFON CLWYD: Ochr yn ochr ceir y bont garreg hynafol; bu pont o ryw fath yn y fan yma ers 1277. Mae’r bont hon yn dyddio o 1595. Mae’r llwybr troed yn cynnig golygfeydd da o’r Castell, Eglwys y Santes Fair a’r Afon Clwyd.
Daliwch ymlaen dros yr AFON CLWYD ac yn syth i lawr FFORDD YR ORSAF at y goleuadau traffig. Ar y CHWITH ichi mae’r WARCHODFA NATUR. Croeswch i’r ochr draw trwy ddefnyddio’r groesfan belican.

Rhif 5: Y WARCHODFA NATUR: Gyda chymorth pobl leol, fe drawsffurfiwyd y tir diffaith yma yn warchodfa natur. Mae wedi denu glas y dorlan, llygod y dŵr, dyfrgwn ac elyrch. Mae'r fan lle'r arferai'r orsaf drenau fod bellach yn rhan o hafan 11 acer i fywyd gwyllt gyda phyllau, coedlannau a dolydd o flodau gwylltion. Ceir cerfluniau o was y neidr ar aden, bilidowcar yn ymestyn ei adenydd a cherddwr yn eistedd ar fainc yn cau carrau'i sgidiau. Ewch am dro, cymrwch bicnic, a mwynhewch y golygfeydd o’n castell trawiadol.

Wedi ichi orffen yn y WARCHODFA NATUR, dilynwch eich camau'n ôl at yr Afon Clwyd ac at y 3 Marchog. Ewch yn ôl i fyny FFORDD YR ORSAF a chymerwch y troad cyntaf i’r DDE a STRYD Y CASTELL a cherdded am oddeutu 100 metr at Rif 6 ar y DDE ichi.

Rhif 6: YR YSGOL: YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829.
Cerddwch ymlaen ar hyd STRYD Y CASTELL at GASTELL RHUDDLAN.

Rhif 7: CASTELL RHUDDLAN: Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Darniwyd y castell wedi iddo gael ei gipio gan luoedd y Brenhinwyr ym 1646, dan arweiniad y Cadfridog Mytton.
Wedi gadael y CASTELL, trowch i’r DDE ar hyd LÔN HYLAS. Cerddwch ychydig fetrau ar hyd LÔN HYLAS hyd nes ichi ddod fan lle mae’r ffordd yn gwyro tua’r chwith. Wrth edrych heibio tro fe welwch chi Rif 8.

Rhif 8: TŶ TO GWELLT
Ar y tro, ar yr ochr DDE ar ddechrau llwybr fe welir arwydd TWTIL (sy’n golygu ‘gwylfan’). Ewch ar hyd y llwybr at giât mochyn (fe welwch TWTIL o’ch blaen) a cherddwch dros y cae at TWTIL a’r bwrdd gwybodaeth.
Rhif 9: TWTIL: Safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073.

Wrth ichi ddod i lawr o ben TWTIL, gyda TWTIL y tu cefn ichi, trowch i’r DDE tuag at y maes carafanau a dilyn y llwybr troed ar ben y bryn ar hyd ymyl y gwrych gyda’r AFON CLWYD oddi tanoch ar y DDE. Fe ddowch at gae. Croeswch y cae ac yna’r gamfa o’ch blaen i gyrraedd FFORDD YR ABATY. Trowch i’r DDE a cherdded y pellter byr at FFERM YR ABBEY ar y CHWITH ichi.

Rhif 10: FFERM YR ABBEY: Brodordy Dominicaidd oedd hwn yn wreiddiol, a adeiladwyd cyn 1258 a’i ddiddymu yn ystod y Diwygiad Protestannaidd yn yr 16eg ganrif. Roedd yn dal i fod yn adfail trawiadol mor ddiweddar ag 1742, yn ôl a welir mewn ysgythriad a wnaed ohono. Yn ddiweddarach daeth rhan o’r adeiladau yn FFERM YR ABBEY. Mae’r fferm yn breifat ond o’r fynedfa gellir gweld delw o’r 14eg ganrif, wedi’i osod mewn wal ar y chwith yn yr adeilad pellaf.

Dychwelwch at y gamfa yn y cae a cherddwch ymlaen ar hyd FFORDD YR ABATY heibio’r fynedfa i’r maes carafanau, heibio tai ac at ddiwedd FFORDD YR ABATY lle mae’n ymuno â FFORDD Y TYWYSOG. Trowch i’r CHWITH ar hyd FFORDD Y TYWYSOG tuag at ganol y dref.
Pan gyrhaeddwch STRYD Y CASTELL ar y CHWITH, edrychwch yn ôl ar yr hen adeilad carreg ar draws y ffordd – dyma’r TŶ GWLEDDA.

Rhif 11: Y TŶ GWLEDDA: Mae’n bosib mai elusendy oedd hwn, yn dyddio o 1672.
Cerddwch ymlaen ar hyd FFORDD Y TYWYSOG ac i ganol RHUDDLAN. Trowch i’r CHWITH i basio siopau, caffis a thafarndai lle cewch ymlacio a mwynhau lluniaeth. Neu trowch i’r DDE at ddechrau’r daith – CROESWCH y groesfan belican, trowch i’r DDE ac yna’n syth i’r CHWITH i COETIAU POSTOL ac i’r CHWITH i mewn i faes parcio’r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.