Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Llyfrgell Rhuddlan

Croeso i Lyfrgell Rhuddlan a Siop Un Stop, y canolbwynt ar gyfer gwasanaethau cymunedol lleol a'r lle i gael gwybodaeth am y dref a'r ardal.

Fel aelod o'r llyfrgell gallwch bori a benthyca llyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron a Wi-Fi i fynd ar-lein - i gyd am ddim - ac argraffu am gost bach. Yn ychwanegol mi fedrwch dderbyn cymorth gyda phob math o wasanaethau o wasanaethau Cyngor Sir Ddinbych, fel tai, parcio neu wastraff, a thalu taliadau y Cyngor.
Beth am ymuno ag un o'r gweithgareddau fel y "Rhymetime" ar gyfer babanod a phlant bach neu un o'r grwpiau a'r dosbarthiadau sy'n cyfarfod yma? Mae gennym ystafelloedd a gofodau ar gael er mwyn defnydd cymunedol.

Mae llawer o wybodaeth a chyngor i'w gael, gan wasanaethau eraill sy'n cysylltiedig a'r cyngor- gofynnwch am fanylion.
Bydd y staff yn hapus i'ch helpu, yn enwedig unrhyw beth sydd yn newydd i chi.