
Ebeneser Chapel 
St Illtyd RC Church 
Methodistiaid Saesneg y Tabernacl 
Eglwys Gosen 
Capel Bedyddwyr Seion 
Mae Arwel Roberts yn sôn am y dirywiad yn y nifer y bobl sy'n mynychu'r capeli.
Yn y flwyddyn 1905 roedd nifer o gapeli yn Rhuddlan gyda pedwar o honynt yn cynnal gwananaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu'r Methodistiaid yn sefydlog yn Rhuddlan ers 1770. Adeiladwyd Capel Methodistaidd Ebeneser yn Stryd y Senedd yn 1819 ac fe'i ehangwyd yn 1869. Yn y flwyddyn 1905 roedd 340 o aelodau'n yn y capel ond, yn anffodus, mae na lai na 40 o aelodau erbyn hyn. Cyflwynir y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r adeilad yn cynnwys neuadd werthfawr ac mae defnydd da ohoni gan y gymuned.
Adeiladwyd Capel y Welseiaid, Y Tabernacl, Stryd Gwindy yn 1832 ac fe'i ail hadeiladwyd yn 1910. Gwasanaethau trwy gyfwng Saesneg a gynhelir yno bellach.
Adeiladwyd Capel y Bedyddwyr Seion yn 1824 ond fe'i gwerthwyd yn 1970 ac mae bellach yn dŷ. Yn 1905 roedd gan y capel 120 o aelodau
Adeiladwyd Capel yr Anibynnwyr, sef Gosen yn Ffordd Rhyl yn 1833. Erbyn 1980 roedd wedi cau ond bellach mae wedi cael ei ailagor fel Egwlys Efenglaidd Annibynol. Yn 1905 roedd gan y capel 99 o aelodau.
Adeiladwyd y Eglwyd Gatholig Sant Illtyd yn Vicarage Lane yn 1975.
Heddiw dim on un capel sy'n cynnal ei gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.