Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Philip Jones Griffiths

Gwrando

Mae Arwel Roberts yn sôn am Philip Jones Griffiths.

Rhybudd y Wasg - dewch i weld arddangosfa o waith Philip yn Amgueddfa Wrecsam o Dachwedd y 10fed 2018 i Mawrth 2ail 2019

Ganwyd Philip Jones Griffiths, un o ffotograffwyr dogfennol gwych y cyfnod diweddar yn Hylas Lane, Rhuddlan

Gellir astudio tystiolaeth o'i waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth. Yma medrwch ddysgu trwy gyfrwng deunyddiau gwreiddiol a deunydd archif personnol ei fywyd cynnar yn Rhuddlan; hefyd ei ffotograffau byd enwog sy'n dogfennu gwahanol ryfeloedd a'u heffeithiau ar ôl hynny.

Mae Philip yn enwog yn bennaf am ei waith yn ystod Rhyfel Fietnam ac effeithiau ar y dinistr wedi'r rhyfel yn y wlad ddwyreiniol honno. Mae ei waith yn cynnwys 'Vietnam Inc', 'Agent Orange' a 'Vietnam in Peace'. Cyfeiriodd at Rhuddlan yn yr olaf fel 'fy mhentref' - yn dechnegol mae yn dref gan fod gennym gastell Edwardaidd a adeiladwyd gan y Saeson i oresgyn y Cymry.

Beth bynnag yw eich barn ar y datganiad yma o'i eiddo, gallwch ddeall pam roedd yn teimlo mor ddwfn am y bobl gyffredin a oedd yn byw yn y pentrefi Fietnam.

Ganed Philip yn Rhuddlan yn y flwyddyn 1936, roedd ei fam yn nyrs a'i dad yn gyfrifol am lorïau a oedd yn cario nwyddau o amgylch Gogledd Cymru o swyddfeydd LMS. Daeth yn brentis yn Boots Y Rhyl. Yn fuan roedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Lerpwl yn astudio fferyllfeg. Roedd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth wedi dechrau yn gynnar. Ei camera cyntaf oedd "Box Brownie".

Bu'n gweithio i Boots yn Llundain. Cynigiwyd gwaith iddo fel ffotograffydd i bapur yr Observer ac ym 1966 cafodd ei dderbyn fel aelod o Magnum, yr asiantaeth enwocaf i ffotograffwyr.

Aeth i Fietnam am y tro cyntaf yn 1966. Dyma ddyfyniad gan Russell Miller a roddodd i ni hanes Magnum. "Fe wnaeth hunllef hir America yn Vietnam waethygu'n sylweddol ym 1966 pan gyrhaeddodd Cymro tafodrydd a chwelgar yn Saigon, sef Phillip Jones Griffiths." Mae ei fan geni yn Hylas Lane, Rhuddlan. Bu farw yn 2008.