Mae'r adeilad trawiadol hwn yn dyddio o 1672 ac efallai ei bod wedi bod yn elusendy.
Mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ol 1672 ond efallai y bu adeilad ar y safle yn llawer cynt na hynny. Mae nodiadau o amser Edward I yn cyfeirio at arian a roddir i adeiladu elusendy yn yr ardal.
Erbyn canol y 1700au fe'i defnyddiwyd fel tŷ ysgol gan y Capel Methodistiaid ond, ers hynny bu'n gartref preifat.
Mae yna ddrws trap yn yr ystafell wely sy'n arwain at siambr a dywedir bod yna o leiaf ddau dwnnel, un yn arwain at y castell ac un i'r abaty.
Er nad yw'r preswylwyr presennol wedi gweld ysbrydion, maent yn arghoeddedig bod rhywun yn troi y goleuadau ymlaen wrth iddynt gysgu - mae'n nhw'n credu mai Charles 1 sydd wrthi.


