Agorwyd Canolfan Gymunedol Talacre yn 2006.
Roedd y Ganolfan Gymunedol wreiddiol yn yr hen gapel Methodistaidd. Yn ei lle adeiladwyd y Ganolfan Gymunedol bwrpasol hon ar Gamfa Wen fel canolbwynt i bobl leol heddiw.
Mae'n lleoliad poblogaidd ar gyfer dawnsfeydd a phartïon. Cynhelir Bingo ddwywaith yr wythnos ac mae bore coffi dydd Llun a chlwb cyfrifiadurol.
Mae'r neuadd eang a'r gegin neu'r ystafell gyfarfod fach ar gael i'w rhentu.




