Roedd llawer o bobl leol yn edrych ymlaen at dymor yr haf bywiog.
Roedd busnesau a fu'n segur drwy fisoedd y gaeaf tawel yn cael bywyd newydd wrth i ymwelwyr heidio i'r nifer cynyddol o garafanau, gyda llogi beiciau, reidiau ffeiriau, ciosgau hufen iâ, siopau sglodion a pheiriannau chwarae.
Roedd Bingo yn atyniad mawr i oedolion, gyda phobl yn awyddus i ennill gwobrau mawr fel setiau teledu. Mae'n parhau i fod yn boblogaidd heddiw ac fe'i cynhelir bob wythnos yn y Ganolfan Gymunedol.
Roedd tafarndai a bariau lleol yn boblogaidd ac mae llawer o bobl yn cofio cerdded i fyny at y Talbot Arms yng Ngronant i chwarae dartiau neu snwcer yn ogystal â'r dawnsfeydd mewn neuaddau pentref a cherddoriaeth fyw mewn clybiau fel Clwb Cymdeithasol Talacre a'r Imperial.
Roedd Taylor's Cafe yn denu pobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig ar ôl iddynt osod jiwcbocs Wurlitzer. Byddai pobl ifanc yn gwneud i botel o cola bara am oriau fel y gallent ddal ati i wrando ar y gerddoriaeth, gan wthio'r byrddau yn ôl i jeifio.
Mae ymwelwyr heddiw hefyd yn mwynhau croeso cynnes yn nhafarndai a chaffis Talacre.






