Roedd cymuned Talacre yn gymysgedd unigryw o Gymraeg a Saesneg.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd Talacre yn cynnwys teuluoedd glowyr a ffermwyr Cymraeg eu hiaith a oedd yn byw i'r de o'r rheilffordd a theuluoedd o Lannau Mersi a ddewisodd aros ymlaen ar ôl y rhyfel, yn byw yn y cabanau yn ac o amgylch y twyni. Roedd pawb yn cymysgu, yn enwedig y plant oedd yn mynd i'r ysgol gyda'i gilydd, ac roedd ysbryd y gymuned yn gryf.
Roedd carnifalau'r pentref yn enwog. Roedd crefydd yn chwarae rhan fawr mewn bywyd bob dydd hefyd. Cydweithiodd y teuluoedd Cymraeg a Saesneg i sefydlu capel Methodistaidd dwyieithog yn Nhalacre, mewn hen gwt carcharorion rhyfel.





