Gellid prynu'r rhan fwyaf o hanfodion yn lleol.
Roedd amryw o siopau'n gwasanaethau'r bobl leol a'r ymwelwyr o Swyddfa'r Post ar Ffordd yr Orsaf i siop nwyddau haearn Percy Rice a oedd i'w weld yn gwerthu popeth, ynghyd â nifer o siopau bychan a chiosgau ar y Warren ei hun.
Roedd rhai o'r rhain yn dymhorol ond roedd eraill, fel becws Tynan, ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cofio'n dda am eu pasteiod cig, cacennau cwstard a thartenni cyrens duon ffres! Yn ddiweddarach symudon nhw i eiddo mwy ar Ffordd yr Orsaf, sef Clwyd Bakeries erbyn hyn.






