Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ehedyddion

Gwrando

Mae ehedyddion yn nodwedd arbennig o boblogaidd yn Nhalacre.

Y ceiliogod wrth iddynt berfformio eu cân ysblennydd ar ehediad yn y gwanwyn, gan hofran yn uchel yn yr awyr am sawl munud cyn parasiwtio i lawr.

Maent yn nythu ar y ddaear yn y twyni, yr iâr yn eistedd ar ei wyau am ddim ond 11 diwrnod cyn iddynt ddeor, y cyfnod deor byrraf gan unrhyw aderyn o Brydain. Mae'r ddau riant yn gweithio'n galed i fwydo'r cywion, i ddechrau ar ddeiet protein uchel o bryfed a phryfed cop ond wedyn ar egin planhigion a hadau hefyd.

Mae nifer yr ehedyddion wedi gostwng yn ddramatig dros y 40 mlynedd diwethaf felly helpwch drwy gadw'ch ci ar dennyn rhwng Ebrill ac Awst.