Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Twyni Gronant

Mae twyni Gronant a Thalacre yn gartref i fywyd gwyllt arbennig iawn.

Ar un adeg roedd y twyni yn ymestyn i Ruddlan ond mae llawer o'r system dwyni wedi cael ei dinistrio wrth i gyrchfannau gwyliau ddatblygu ar hyd yr arfordir.

Mae twyni tywod yn symud o hyd, fel mae rhai o'r hen luniau'n ei ddangos. Mae gan foresg goesau neu risomau tanddaearol cryf sy'n dal y tywod ac yn helpu i adeiladu'r twyni. Mae dail pigog celyn y môr yn helpu i gadw dŵr, sy'n hanfodol i'r planhigyn oroesi'r amodau sych, hallt.

Mae tegeirianau a blodau eraill yn ffynnu yn yr ardaloedd mwy llaith ymhellach i mewn i'r tir ac yn yr haf mae'r twyni yn doreth o liw. Pys y ceirw melyn llachar yw planhigyn bwyd y glöynnod gleision cyffredin tra bod y bwrnedau chwe smotyn yn ymddangos o'u cocwnau papuraidd i fwydo ar y blodau niferus.