Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Chwarae ar y Traeth

Mae'r traeth wedi bod yn faes chwarae i genedlaethau o ymwelwyr.

Mae pobl leol ac ymwelwyr yn rhannu atgofion hapus o chwarae ar y traeth, neidio yn y tonnau, adeiladu cestyll tywod ac argaeau, dysgu nofio, pysgota a'r tywod hollbresennol yn y brechdanau!

"Fe fydden ni allan drwy'r dydd. Erbyn mis Medi byddwn i'n frown fel cneuen a gofynnodd fy athrawes ymarfer corff newydd a oeddwn i wedi bod dramor i gael lliw haul mor dda. 'Na, Talacre, Miss!', atebais!"