Roedd gan bawb ei hoff gilfach.
Roedd gan rai enwau fel 'Mad Max' oherwydd roedd yn rhaid i chi fod yn wallgo i fynd i fyny i'r brig a dod lawr bendramwnwgl! Roedd y mamau'n cwyno fod yr hambyrddau te bob amser yn diflannu, i'w defnyddio fel slediau ar y twyni.
"Roedd un bryn mawr iawn yr oeddem yn mynd yn syth amdano ar ddyddiau heulog. Ar y brig, byddai fy rhieni'n ymlacio tra byddai fy mrawd a minnau'n chwarae o gwmpas y tywod neu fynd ar y traeth. Roedd y twyni'n llawn malwod, moresg, celyn y môr ac ambell i fadfall."
"Roedd yn ysbrydoliaeth. Beth arall oedd ei angen? Dim ond mynd a cherdded yn y twyni yng nghanol nos ac edrych ar y sêr. Roedd yn wych, yn wirioneddol wych."
"Mae arogl y twyni yn dod â llawer o atgofion yn ôl. Y synau hefyd - criciaid a sisial y gwynt yn y moresg."


