
Golygfa o focs bilsen yn y 1950au 
Olion blwch bocs Norcon ar y traeth 
Blwch bilsen Norcon wedi ei droi mewn twyni 
Olion pyst llarwydd ar y traeth
Daeth rôl newydd i arfordir Prydain gyda bygythiad o ymosodiad gan filwyr Hitler ym 1940.
Mae blaenau dau fyncer crwn i'w gweld o hyd ar naill ochr y goleudy ac un sydd mewn gwell cyflwr ben i waered yn y twyni ger Presthaven.
Roedd bynceri 'pillbox' wedi'u lleoli mewn mannau strategol ar hyd yr arfordir, yn cael eu staffio gan y Gwarchodlu Cartref yn cadw llygad ar y môr. Cafodd rhes ar res o byst llarwydd eu cloddio i mewn i'r tywod er mwyn atal gleiderau ac awyrennau eraill rhag defnyddio'r traeth fel llain lanio pan oedd y llanw'n isel tra bod gwifren bigog a ffrwydron yn atal mynediad i'r tir o'r arfordir.