Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bywyd amser y Rhyfel

Gwrando

Fe wnaeth nifer o deuluoedd ffoi o'r bomio a dod i'r Warren.

“Fe symudon ni o Walton yn Lerpwl pan oeddwn i'n ddwy i ddianc rhag y bomio. Roeddem yn byw mewn byngalo pren a adeiladodd fy nhad. Gallech glywed yr awyrennau uwchben yn y nos wrth iddynt ddod o gyfeiriad Iwerddon i fyny'r aber tuag at Lerpwl. Doedd o ddim i'w weld yn effeithio arnom am ein bod yn ein cocŵn bach ein hunain. Roeddem yn ddiogel ac yn ddianaf ac eto roedd y rhyfel o'n cwmpas ni i gyd."

Roedd bywyd yn galed heb unrhyw drydan, dŵr tap na thoiledau priodol ond roedd pobl yn gryf a bob amser yn barod i helpu cymydog. O 1942 ymlaen, roedd pobl yn gyfarwydd â gwrando ar ymarfer y Spitfires ac roedd y bobl ifanc yn mwynhau casglu'r cetris gweigion.

Arhosodd rhai teuluoedd ar ôl y rhyfel a gwneud y cabanau yn gartrefi parhaol tra bod eraill yn cael eu gosod i bobl ar wyliau.