“Roedd yn hollol wych tyfu i fyny ar y Warren. Y rhyddid a gawsom! "
“Yn 1952 symudais gyda fy mam, fy nhad a'm 2 chwaer o Salford i fyw mewn byngalo pren yn y Warren. Roedd fy atgofion plentyndod yn amseroedd hapus er nad oedd gennym unrhyw drydan na dŵr tap. Roedd gennym danc y tu allan i gasglu'r dŵr glaw ac roedd yn rhaid mynd at beipen ddŵr i gael dŵr yfed. Tyfai fy nhad lawer o lysiau ond roedd y cwningod yn arfer bwyta llawer. Roedd yn rhaid i ni fynd i'r garej i gael paraffin ar gyfer y lampau a batri i'r radio.
"Roeddwn i'n arfer pysgota gyda fy mam. Arferai roi llinell allan yn y môr a'r diwrnod wedyn roeddem yn casglu'r holl lythod. Roeddem ni hefyd yn casglu cocos. Roeddwn i a fy nwy chwaer yn arfer mynd i Ysgol Sul yn y genhadfa, o'r enw Sunshine Corner. Rwy'n dal i gofio'r gân roedden ni'n ei chanu. Fe gawsom 8 mlynedd fendigedig yn chwarae ar y Twyni. Roedd yn baradwys i ni."



