Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tyfu i fyny ar y Warren

Roedd y Warren yn gartref i gymuned glos ar ôl y rhyfel.

Roedd pawb yn adnabod pawb ac yn edrych allan am ei gilydd, trigolion a phobl ar eu gwyliau fel ei gilydd.

Roedd y cabanau yn sylfaenol ond yn glyd. Roedd pibellau sefyll ar gyfer dŵr yfed ond roedd ciwiau mawr yn yr haf a chasglodd pobl ddŵr glaw ar gyfer golchi, cynhesu'r dŵr dros dân glo i lenwi bath tun.

Roedd y plant yn mwynhau'r rhyddid i grwydro, casglu bwledi gweigion yn ogystal â chregyn ar y traeth, ac ennill arian poced yn nôl glo neu gludo bagiau o'r orsaf reilffordd i'r rhai ar eu gwyliau.

Dymchwelwyd y Warren ym 1973.