Sefydlwyd Cymdeithas Thomas Pennant er cof am Thomas Pennant ac i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau i'w hyrwyddo'n lleol yma yng 'Ngwlad Pennant'.
Roedd Thomas Pennant yn deithiwr, awdur, naturiaethwr ac hanesydd. Fe'i ganed ym 1726, a bu'n byw ym Mhlas Downing, yr ystad deuluol, ger Chwitffordd gydol ei oes. Datblygodd Pennant ddiddordeb mewn bywyd gwyllt yn gyntaf pan gafodd lyfr adar yn 12 mlwydd oed. Astudiodd yn Rhydychen ond ni gwblhaodd ei radd.
Teithiodd ar gefn ceffyl gyda'i was Moses Griffiths, a defnyddiwyd ei frasluniau i ddarlunio llyfrau Pennant. Cwblhawyd cyfrol gyntaf Teithiau yng Nghymru ym 1778 a'r ail ym 1791. Cyhoeddwyd Hanes Plwyfi Chwitffordd a Threffynnon ddwy flynedd cyn ei farwolaeth ym 1798.
Darganfyddwch fwy am Gymdeithas Thomas Pennant