Mae pontio yn golygu gwneud yr ymdrech i fod yn drefnus, weithiau'n gwneud camgymeriadau, ond yn anad dim, dod i adnabod y bobl o'n cwmpas, a chael hwyl!
Mae Pontio Treffynnon a'r Ardal yn rhan o'r mudiad Pontio byd-eang. Y prif nod yw cryfhau cydnawsedd cymunedol ar adeg pan mae pobl yn teimlo'n fwy a mwy pryderus ynghylch y dyfodol. Mae newidiadau mawr, gan gynnwys cynhesu byd-eang a chynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd, yn golygu bod angen i ni beidio â gwastraffu dim amser wrth osod y sylfeini ar gyfer mwy o gymunedau sy'n gyfeillgar i'r Ddaear, hunan-ddibynnol, yn lleol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn meddu ar y sgiliau bywyd sylfaenol a gymerodd ein neiniau a'n teidiau'n ganiataol.
Yma yn Nhreffynnon, gyda chymorth amrywiol grantiau, ac yn gweithio'n aml gyda phartneriaid, rydym yn cynnal gardd gymunedol fawr yn Nyffryn Maes Glas. Rydym wedi creu tair gardd llwyni/bywyd gwyllt bychan arall mewn mannau cyhoeddus blêr a phlannu gardd blodau gwyllt a pherllan, ynghyd â chyrsiau sgiliau perthnasol, gan gynnwys sgiliau pladuro a belio gwair, yn fynwent Sant Pedr. Ein llwyddiant mwyaf oedd ennill grant mawr i greu 'Llwybr Treftadaeth Treffynnon' a oedd yn cynnwys amryw o welliannau llwybrau troed, naw panel dehongli a cherflun trawiadol ar gyfer y Stryd Fawr, sy'n ffurfio cyswllt symbolaidd gyda'r ffynnon sanctaidd a roddodd enw i'r dref. Rydym hefyd yn trefnu ffeiriau crefft a chanoloesol lleol gydag adloniant yn Stryd Fawr Treffynnon.
Cysylltwch â Roberta Owen ar 01352 710714



