
Ffurfiwyd Cymdeithas Treffynnon a'r Cylch yn 2007 i gofnodi a rhannu gwybodaeth am Dreffynnon a'r ardal gyfagos.
Mae gan y Gymdeithas ddiddordeb mewn hanes, archeoleg, amgylchedd, tirwedd a chynefin lleol. Rydym yn nodi y niferoedd adar a glöynnod byw yn Nyffryn Maes Glas fel rhan o brosiect cenedlaethol.
Mae'r Gymdeithas yn ymgymryd ag Archif Gymunedol yn Swyddfeydd y Cyngor Tref, lle mae pobl yn dod â ffotograffau, cardiau post a chofebau eraill sy'n cael eu sganio a'u storio ar gyfrifiadur er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Trefnir sgyrsiau ac ymweliadau hefyd yn ystod y flwyddyn.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Treffynnon a'r Cylch