Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Panton Place a Parc y Fron

Adeiladwyd Panton Place ym 1816 gan Paul Panton Jnr ar gyfer tai a gweithdai i grefftwyr a gweithwyr proffesiynol.

Roedd Ivy House yn gartref i lawfeddygon a wasanaethodd y dref a'r Undeb neu'r Wyrcws. Yna bu'n gartref i Swyddfa Bost gyntaf Treffynnon, ac yna'n Fanc Barclays am gyfnod. Ar y gornel gyferbyn â NatWest mae Panton House, a ddaeth yn ddiweddarach yn Westy Lambert, tŷ dirwestol.

Uwchben Panton Place mae'r Gerddi Coffa, gyda'r giatiau haearn a phileri cerrig wedi eu cyflwyno i ddynion Treffynnon a fu farw yn ystod y ddau Ryfel Byd. Yn y gerddi mae colofn arall gyda 1855 arni, a chredir ei bod yn gofeb i ddynion y dref a fu farw yn Rhyfel y Crimea.