Ym 1900 roedd tua 20 o dai tafarn yn y Stryd Fawr.
Y King's Arms oedd enw'r Gwesty Fictoria tan 1897 pan gafodd ei ailenwi i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Fictoria.
Dechreuodd yr hen fanc HSBC ei fywyd yn y 1750au fel tafarn coets fawr, gyda nifer o enwau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Golden Lion a'r White Horse. Arhosodd y Dywysoges Fictoria ifanc yma ym 1832 ar ei ffordd yn ôl o Ynys Môn.
Y tŷ tafarn hynaf yn Nhreffynnon yw'r Feathers, ychydig gamau oddi ar y Stryd Fawr, yn Stryd Chwitffordd. Mae llawer o dafarndai wedi diflannu, ond gallwch weld enw'r Grapes yn y wal uwchben Iceland a'r Cross Keys yn y mosaig yng nghanol drws y siop flodau.



