Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Stryd Fawr Treffynnon

Adeiladwyd llawer o Dref Treffynnon a welir heddiw ar y cyfoeth a gynhyrchwyd gan ddiwydiannau cotwm a chopr Dyffryn Maes Glas ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Adeiladwyd Neuadd y Dref wych rhwng1893 - 96 i gartrefu Swyddfeydd y Cyngor gydag Ystafelloedd Cynnull ar y lloriau uwch. Yma hefyd oedd cartref i sinema gyntaf Treffynnon, The Empire Picture Palace a allai eistedd 450 o bobl.

Safai'r cloc, sydd bellach wedi'i leoli ar flaen y Neuadd, yn wreiddiol o flaen yr adeilad a oedd yn bodoli cyn Neuadd y Dref. Fe'i cyflwynwyd i Dreffynnon i goffáu dyfod i oed William, mab Syr Pyers Mostyn ym 1867. Fe symudwyd y cloc i'w safle presennol tua 25 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae Exchange House, sydd bellach yn ystafell de Kassidy, yn llawer cynharach na 1702, ond fe'i moderneiddiwyd a'i ymestyn yn ystod y cyfnod.