
Symudodd John Smalley i Faes Glas o Swydd Gaerhirfryn ac adeiladodd y felin gotwm gyntaf yn y Dyffryn ym 1777. Bu farw John ym 1782 ond fe barhaodd y Cotton Twist Company dan arweiniad ei fam a'i frawd hŷn, Christopher.
Roedd y diwydiant cotwm yn ffynnu ac adeiladwyd ail felin, Felin Uchaf, mewn dim ond 6 wythnos ym 1783. Daeth Melin Cotwm Isaf yn 1785, gan gymryd dim ond 10 wythnos i adeiladu'r adeilad 6 llawr. Cyflogwyd hyd at 300 o brentisiaid, llawer ohonynt o dan 10 oed.
Aeth Christopher i mewn i bartneriaeth gyda John Douglas o Fanceinion, ac ailenwi'r cwmni yn "Messers Douglas and Smalley", ac adeiladu Melin y Cilgant, y bedwaredd felin yn y Dyffryn. Fe'i gelwid hefyd yn Felin Melyn oherwydd ei bod wedi'i hadeiladu gyda cherrig melyn o'r Abaty.
Sefydlwyd Banc Treffynnon ganddynt tua 1820 a oedd hefyd â changen yn yr Wyddgrug. Erbyn y 1830au cyflogwyd dros 1000 o bobl, ac roedd tua hanner ohonynt yn blant. Adeiladwyd y Barics i gartrefu'r gweithwyr benywaidd ifanc tra roedd llawer o'r dynion yn cysgu yn y melinau.
Cyflwynwyd pŵer stêm yn y melinau yn 1835, ond bu cwymp yn y diwydiant cotwm ym 1837 a, ynghyd â Deddf Ffatri 1833 a oedd yn cyfyngu ar y defnydd o lafur rhad, daeth y busnes i ben. Methodd y banc ym 1839 a chafodd y melinau cotwm eu cau ym 1841.
Ail-agorwyd Melin Cotwm Isaf fel Melin Flawd Evans yn 1850, felly Pwll Melin Flawd. Mae'r adeilad bellach yn ffatri potelu.
Ymhen blynyddoedd defnyddiwyd Melin Melyn i storio gan nad oedd y lloriau'n ddigon cryf i gario peiriannau modern.