Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hanes Santes Gwenffrewi

Mae pererinion wedi cael eu dennu i Ffynnon Santes Gwenffrewi ers dros 1300 o flynyddoedd.

Roedd Santes Gwenffrewi yn ferch i uchelwr Cymreig, Tyfid ap Eliudd. Rhoddodd Tyfid rywfaint o dir i Feuno, ewythr Gwenffrewi, i adeiladu eglwys a chytunodd hefyd y gallai ddysgu Gwenffrewi am y ffydd oherwydd roedd hi eisiau cysegru ei bywyd i Dduw.

Dywed y chwedl i Dyfid a'i wraig, un fore Sul, fynd i'r eglwys, gan adael Gwenffrewi i'w dilyn. Daeth Caradog, tywysog brenhinol heibio a chafodd ei daro gan harddwch Gwenffrewi ac roedd eisiau ei phriodi, ond mynnodd Gwenffrewi ei bod eisoes wedi cael ei rhoi i Dduw.

Sleifiodd Gwenffrewi allan o'r tŷ a rhedeg tuag at yr eglwys, ac yna daliodd Caradog i fyny â hi a thorri ei phen mewn dicter. Roedd ei rhieni mewn trallod enbyd, ond rhoddodd Beuno ei phen yn ôl ac yn wyrthiol fe ddaeth yn ôl yn fyw, gyda dim ond craith o amgylch ei gwddf.

Melltithiwyd Caradog a diflannodd. Lle collwyd gwaed Gwenffrewi, tasgodd ffynnon fawr o'r ddaear gyda cherrig o liw gwaed a mwsogl fel arogldarth. Dywedodd Beuno wrth Wenffrewi y byddai unrhyw un a ofynnai am ei chymorth trwy weddi yn y fan honno yn ei dderbyn.