
Ganwyd Sant Beuno tua 600 OC ac roedd yn un o'r seintiau pwysicaf yng Ngogledd Cymru yn ystod y Canol Oesoedd.
Wedi'i eni i deulu brenhinol, derbyniodd Beuno addysg dda a daeth yn abad, gan deithio o gwmpas Gogledd Cymru yn pregethu a gwella'r cleifion. Sant Beuno adeiladodd yr eglwys gyntaf yn Nhreffynnon ac hefyd sefydlodd abaty yng Nghlynnog Fawr ar Benrhyn Llŷn lle cafodd ei gladdu pan fu farw yn 640 OC. Yn yr Oesoedd Canol daethpwyd â phlant yn arbennig i ymdrochi yn y ffynnon gysegredig ger y fynachlog ac ef hefyd yw nawddsant anifeiliaid sâl.
Chwedl Sant Beuno a'r clogyn sych
Cyn i Beuno adael Treffynnon gofynnodd i Gwenffrewi wneud clogyn iddo bob blwyddyn. Cytunodd Gwenffrewi yn llawen ond gofynnodd sut y gallai ei hanfon ato gan nad oedd hi'n gwybod ble y byddai. Dangosodd Beuno garreg yn yr afon, lle eisteddai yn aml, iddi a dywedodd y dylai roi y clogyn yno a gadael i'r afon ei chludo i'r môr a'i chario iddo. Gwnaeth Gwenffrewi hyn ac roedd y clogyn bob amser yn ei gyrraedd, yn hollol sych bob tro. Pryd bynnag y gwnaeth Beuno wisgo'r clogyn roedd yn ei gadw'n berffaith sych ac fe'i galwyd o'r herwydd, yn 'Beuno'r Clogyn Sych'.