
Mae yna sawl adroddiad o ymweliadau llwyddiannus â Ffynnon Santes Gwenffrewi dros y blynyddoedd.
Roedd nifer o bererinion yn wynebu taith beryglus cyn i reilffyrdd a ffyrdd da wneud bywyd yn llawer haws. Roedd pererinion o Swydd Gaerhirfryn yn croesi'r Merswy mewn cwch ac yna byddai'n rhaid iddyn nhw gerdded ar draws aber Afon Dyfrdwy tra bod y llanw allan, ac yna roedd tipyn o waith cerdded i fyny'r bryn.
Daethpwyd â phererinion eraill mewn trol neu ferfa. Mae stori am fachgen amddifad, 17 mlwydd oed a gafodd ei wthio gan ei deulu a dieithriaid caredig, dros 90 milltir o Dremain ger Aberteifi rhwng y Pasg a'r Sulgwyn ym 1673.
Mae stori arall yn sôn am ferch fach a ddygwyd o Westmoreland ar gefn asyn. Yn ffodus, cafodd hi ei gwella a gallai gerdded adref, felly gwerthwyd yr asyn yn Nhreffynnon.