Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Lefel Holway

Twnnel 2 filltir o hyd yw Lefel Holway a oedd yn arwain at un o fwyngloddiau plwm mwyaf cynhyrchiol Prydain.

Mae'r wythïen Hen Holloway yn rhedeg o dan yr Orsedd, Carmel a Lloc. Cychwynnodd "The Holywell Level Company" dan berchnogaeth Syr Pyers Mostyn, mewn partneriaeth â Thomas Pennant, gloddio'r wythïen hon ym 1773. Roedd y lefel yn draenio dŵr o'r mwynglawdd a hefyd yn caniatáu i'r mwynwyr gyrraedd y gwythiennau a dod â phlwm allan gyda chychod. Datblygodd Thomas Edwards, asiant y mwynglawdd, y twnnel fel atyniad i dwristiaid ym 1788 gyda byrddau a chadeiriau wedi'u gosod mewn ogof lle gallai ymwelwyr fwynhau picnic dan ddaear. Erbyn 1830 cafodd y cychod eu disodli gan dramffordd.

Roedd y galena neu'r mwyn plwm a ddarganfuwyd yma yn gyfoethog ac yn cynnwys hyd at 80% o blwm a 12% o arian. Cafodd calamin, mwyn sinc a ddefnyddiwyd i gynhyrchu pres, ei gloddio yma hefyd ac yn un rheswm pam y daeth cynhyrchwyr pres i Ddyffryn Maes Glas.

Mae'r llun yn dangos un o'r cychod a ddefnyddiwyd yn y Lefel.