Roedd Melin Tecstilau Treffynnon yn lle swnllyd a budr i weithio.
Byddai beltiau mawr yn gyrru'r peiriannau fry uwchben, tra roedd popeth yn seimllyd a llithrig, am fod yn rhaid rhoi olew ar holl rannau symudol y peiriannau, yn rheolaidd, i'w cadw mewn trefn dda.
Roedd gwlân yn cael ei gymysgu'n gyntaf gydag olew sebon ac yna'n cael ei gribo i'r riliau. Gosodwyd y rhain ar y peiriannau nyddu, y mulod, lle'r oedd y gwlân yn cael ei nyddu ar fobin. Roedd bobinau llawn yn mynd ar y peiriant dirwyn i gael ei droi'n gonau o edau.
Defnyddiwyd conau fel hyn ar gyfer gwead ystof neu anwe yn barod i'w wehyddu ar y gwŷdd. Roedd yr edau anwe yn cael ei roi ar fobinau hir a thenau a'i osod mewn bocs gwennol pren a'i saethu ar draws ar gyflymder uchel. Fe elwid y brethyn yma'n 'piece', a daw'r dywediad "piecework" neu 'waith tâl' o'r arferiad yma, o gael eich talu yn ôl pob darn a wnaed.

