Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

CP Treffynnon

CP Treffynnon

Mae Clwb Pêl-droed Treffynnon wedi cael llawer o fuddugoliaethau dros y blynyddoedd.

Cychwynnodd y clwb yn Nhreffynnon ym 1893, pan chwaraeant ar gae o'r enw Ffordd Fer. Ar ôl absenoldeb o'r gynghrair, fe'u hail-sefydlwyd fel Treffynnon United ym 1905.

Adeiladwyd wal gefn y brif stand yn Stadiwm Heol Helygain gan filwyr a oedd wedi ei rhyddhau o'r fyddin wedi'r Ail Ryfel Byd. Dyma pryd ganwyd Clwb Pêl-droed Treffynnon, neu'r "Wellmen" fel y gwyddys amdanynt.

Eu cyflawniad mwyaf nodedig oedd yn 2014 pan ddaeth Clwb Pêl-droed Treffynnon, yn glwb cyntaf o'r drydedd haen o Byramid Pêl-droed Cymru i gyrraedd rowndiau cyn-derfynol Cwpan Cymru'r CBDC, gan golli yn agos i Aberystwyth Town.

Mae'r clwb yn parhau i ddatblygu'r tîm cyntaf a thimau eraill, ac maent hefyd yn darparu eu cynllun Treffynnon yn y Gymuned, gan gyflwyno rhaglenni ar draws pob sector o'r gymuned.