


Holywell Workhouse Chapel 


Agorwyd Tloty Undeb Treffynnon ddydd Llun 9 Tachwedd, 1840 i gartrefu'r nifer cynyddol o dlodion.
Cartrefwyd dynion a merched ar wahân ac ym 1867 gosodwyd cloeon ar ward y merched i gadw'r dynion allan! Roedd trigolion iach yn gweithio'n galed i dalu eu ffordd, tra gallai dynion ifanc hyd yn oed gael prentisiaeth er mwyn iddynt adael a chael swydd.
Roedd bywyd yn y tloty yn galed â chosbau difrifol, chwipio, carcharu ar eu pen ei hunain, neu gyfnod yng Ngharchar y Fflint i rai oedd yn dwyn, yn haerllug neu'n ymladd. I rai a oedd yn cadw i'r rheolau rhoddwyd gwobrau megis cig eidion rhost a phwdin plwm adeg Nadolig.
Roedd asgell gyfan o'r adeilad i'r cleifion, a ward heintus ar gyfer unrhyw salwch cronig.
Dyluniwyd Capel y Tloty gan John Douglas ac fe'i adeiladwyd ym 1883/84 gan rai o'r trigolion.
Nid oedd angen am wyrcws wedi sefydlu'r Wladwriaeth Les ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cymerodd GIG yr adeilad drosodd a'i agor fel Ysbyty Cyffredinol Lluesty, a barhaodd fel ysbyty tan 2008.